Now live on Amazon - the Welsh language edition!


Nid cyfieithiad i’r Gymraeg yn unig yw hwn, mae’n llawer mwy na hynny . . . .
**Dyw hwn ddim jest yn gyfieithiad i’r Gymraeg – mae’n llawer mwy na hynny. Mae wedi’i ysgrifennu ar gyfer siaradwyr Cymraeg a dysgwyr fydd yn gwerthfawrogi’r Cymreictod sydd ynddo, gyda’r ymdeimlad cyfarwydd o berthyn ac o fod adref yn ei eiriau a’i naws. Mae gwyddoniaeth wastad yn ymwneud â ffeithiau a phethau sy’n bosib eu profi, a does dim byd o hynny’n newid, pa iaith bynnag a ddefnyddiwn. Ond y ffordd mae’r pethau hyn yn cael eu trafod a’u cyflwyno yn y llyfr yma yw rhodd arbennig gan yr iaith Gymraeg.
Er enghraifft, mae adran yn y llyfr sy’n sôn am y planedau fel duwiau’r Gysawd Haul, ac mae’r holl rai arferol yno – Uranws, Mawrth a’r gweddill. Ond mae hen dduwiau Cymru yno hefyd. Y Celtiaid dirgel o hen amseroedd, ysbrydion a brenhinoedd y dyffrynnoedd, y nentydd a’r coetiroedd – Arawn, Beli Mawr, Blodeuwedd brydferth – mae lle i bob un ohonyn nhw yn y llyfr yma.
Llyfr am y Gysawd Haul yw hwn, ond mae hefyd yn arf i’n helpu i ddarllen am wyddoniaeth a’i mynegi yn y Gymraeg, yn ogystal â’n helpu i fwynhau ac i ryfeddu at yr antur ddi-ben-draw sydd yn ein Gysawd Haul ni.**


